Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 388 (Cy. 97)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 2.59 p.m. ar 25 Mawrth 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.00 p.m. ar 25 Mawrth 2022

Yn dod i rym

28 Mawrth 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2022.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer Rhan 3.

(3Hepgorer Rhan 4A.

(4Hepgorer rheoliad 19.

(5Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer is-baragraffau (a) i (g);

(ii)hepgorer is-baragraff (j);

(b)hepgorer paragraff (6).

(6Hepgorer rheoliad 21.

(7Yn rheoliad 25(2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “18A, 19, 20, 27 i 34,” rhodder “20, 27 i 29, 31 i 34,”.

(8Yn rheoliad 27(1), hepgorer is-baragraffau (za) ac (a).

(9Hepgorer rheoliad 30.

(10Yn rheoliad 31, hepgorer paragraff (1)(a).

(11Yn rheoliad 32, hepgorer paragraffau (1) a (2).

(12Yn rheoliad 36(3)—

(a)hepgorer is-baragraffau (b) ac (c);

(b)yn is-baragraff (e), yn lle “32(1)(b) neu (3)(b)” rhodder “32(3)(b)”.

(13Yn rheoliad 39, hepgorer paragraffau (2) a (3).

(14Hepgorer rheoliad 40.

(15Yn rheoliad 41, hepgorer “19(1) neu”.

(16Yn rheoliad 42, hepgorer paragraff (2).

(17Yn rheoliad 43, hepgorer paragraff (2)(a)(ii).

(18Yn rheoliad 48(1), yn lle “49, 50, 51 neu 52” rhodder “50 neu 52”.

(19Hepgorer rheoliad 49.

(20Hepgorer rheoliad 51.

(21Yn rheoliad 52(1), hepgorer “, (2)”.

(22Yn rheoliad 53(1)(c), hepgorer “, 49” a “, 51”.

(23Yn rheoliad 54, hepgorer paragraff (2).

(24Yn rheoliad 56(1A)(a), hepgorer “ac eithrio trosedd o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw”.

Darpariaeth drosiannol: dirymu gofynion ynysu

3.  Pan fo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, yn unol â rheoliad 6(2), 7(2) neu 8(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn union cyn iddynt gael ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn, mae’r gofyniad yn peidio â bod yn gymwys pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.59 p.m. ar 25 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

  • yn hepgor Rhan 3 o’r prif Reoliadau, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau hunanynysu os ydynt yn cael canlyniad positif am y coronafeirws, neu os ydynt yn gysylltiadau agos i bersonau sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws (ond mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn parhau i argymell hunanynysu);

  • yn newid gofynion y prif Reoliadau i orchuddion wyneb gael eu gwisgo ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus o dan do penodol fel nad ydynt ond yn gymwys mewn mangreoedd iechyd a gofal cymdeithasol mwyach;

  • yn hepgor y gofyniad penodol i bersonau sy’n ymgyrchu mewn etholiad gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws (ond bydd yn ofynnol o hyd i bleidiau gwleidyddol gymryd mesurau rhesymol o’r fath o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau mewn perthynas â’u gweithgareddau mewn mangreoedd rheoleiddiedig);

  • yn hepgor y drosedd benodol yn y prif Reoliadau o ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y diwygiadau a nodir uchod a’r rheini sydd wedi eu gwneud i’r prif Reoliadau yn flaenorol. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol i’w gwneud yn glir bod unrhyw ofyniad cyfreithiol i berson hunanynysu yn peidio pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym (ond eto bydd canllawiau Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn berthnasol i berson o’r fath).

Fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys (a phe bai rheoliadau yn y dyfodol yn symud Cymru i unrhyw un o lefelau rhybudd 1 i 4, gellid diwygio’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau cyn iddynt gymryd effaith).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources