Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening Options

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 154 (Cy. 38)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Gwnaed

13 Chwefror 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 15 Chwefror 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 2.00 p.m. ar 15 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Chwefror 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â chyrraedd o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt

Diwygio’r Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

2.  Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 2 i 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Mewnosod Rhan 2B yn y Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

3.  Ar ôl Rhan 2A (hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewnosoder—

Rhan 2BLL+CGofynion profi mandadol

Gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru

6B.(1) Mae’r rheoliad hwn a rheoliad 6C yn gymwys i berson (“P”) 5 oed neu drosodd sy’n ddarostyngedig i ofyniad ynysu o dan reoliad 7 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig) neu 8 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig).

(2) Yn y Rhan hon—

(a)“prawf diwrnod 2” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C;

(b)“prawf diwrnod 8” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 2 o Atodlen 1C;

(c)“darparwr prawf cyhoeddus” yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(4), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(6).

(3) Cyn cyrraedd Cymru, rhaid i P drefnu â darparwr prawf cyhoeddus i gymryd—

(a)prawf diwrnod 2, a

(b)prawf diwrnod 8,

ar ôl i P gyrraedd Cymru.

(4) Ond nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3) os yw person arall wedi trefnu’r profion ar ran P cyn i P gyrraedd Cymru.

(5) Pan fo P yn blentyn sy’n cyrraedd Cymru gyda pherson (“C”) sydd â chyfrifoldeb dros P—

(a)(oni bai bod paragraff (4) yn gymwys i P) rhaid i C drefnu profion yn unol â pharagraff (3) ar ran P, a

(b)nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3).

(6) Nid yw prawf i’w drin fel pe bai wedi ei drefnu yn unol â’r rheoliad hwn oni bai—

(a)bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu’r darparwr prawf cyhoeddus bod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, a

(b)bod yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1B wedi ei darparu i’r darparwr prawf cyhoeddus mewn perthynas â P.

(7) Pan drefnir y profion, rhaid i’r darparwr prawf cyhoeddus ddarparu cyfeirnod prawf—

(a)i P, a

(b)i unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.

(8) Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo rhaid i P, neu C os yw P yn blentyn, ddarparu cyfeirnod y prawf neu dystiolaeth arall i’r swyddog fod y profion wedi eu trefnu ar ran P.

Gofyniad i gymryd profion

6C.(1) Wrth gyrraedd Cymru, rhaid i P gymryd—

(a)prawf diwrnod 2, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(b)prawf diwrnod 8, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn gynharach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Ond nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys pan fo prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad positif.

(3) Pan fo P yn blentyn, rhaid i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb dros P sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod P yn cydymffurfio â pharagraff (1).

(4) Pan na fo P yn cymryd prawf diwrnod 2 fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf arall sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2.

(5) Pan gymerir prawf arall yn lle prawf diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai P wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.

Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion

6D.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn methu â chymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) ac yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b), neu

(b)yn cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) (sy’n negyddol neu’n amhendant) ond yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b).

(2) Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3) Ond pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a—

(a)bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6C;

(b)bod y canlyniad yn negyddol, mae rheoliad 6G yn gymwys fel pe bai—

(i)P wedi cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1), a

(ii)bod y ddau brawf yn negyddol.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf diwrnod 8 a gymerir—

(a)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond

(b)cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

Goblygiadau canlyniad prawf positif

6E.  Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif—

(a)nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru), a, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(7) yn gymwys mewn perthynas â P, a

(b)diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

Goblygiadau canlyniad positif i berson sy’n preswylio yn yr un fangre

6F.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif a bod P yn preswylio gyda pherson arall (“A”)—

(a)sydd o dan ofyniad i ynysu o dan reoliad 7 neu 8, a

(b)y byddai ei ddiwrnod ynysu olaf, oni bai am y rheoliad hwn, yn cael ei bennu yn unol â rheoliad 12.

(2) Diwrnod ynysu olaf A o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf A).

(3) Ond nid yw hyn yn gymwys pan fo—

(a)y prawf positif y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn brawf diwrnod 8 a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6C(1)(b), a

(b)A wedi cael canlyniad positif i brawf diwrnod 2 a gymerodd A yn unol â rheoliad 6C(1)(a).

Goblygiadau peidio â chael canlyniad prawf diwrnod 8 cyn diwedd y cyfnod ynysu

6G.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1),

(b)yn cael canlyniad negyddol i’r prawf diwrnod 2, ac

(c)heb gael canlyniad y prawf diwrnod 8 cyn diwedd diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 (fel y’i pennir o dan reoliad 12).

(2) Os yw canlyniad prawf diwrnod 8 P yn negyddol, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw’r diwrnod y mae P yn cael canlyniad y prawf diwrnod 8 (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant

6H.(1) Pan fo canlyniad prawf y mae person (“P”) yn ei gymryd yn unol â rheoliad 6C yn amhendant, pennir diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yn unol â pharagraff (2) (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(2) Diwrnod ynysu olaf P yw—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, neu

(b)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn negyddol, y diweddaraf o’r canlynol—

(i)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf, neu

(ii)y diwrnod y mae P yn cael y canlyniad negyddol, neu

(c)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn bositif, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(3) Pan fo paragraff (2)(c) yn gymwys, nid yw’n ofynnol i P gymryd y prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C.

(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)prawf diwrnod 8 a gymerir yn unol â rheoliad 6C(1)(b);

(b)prawf diwrnod 8 a gymerir—

(i)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond

(ii)cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

Profion ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn

6I.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)P yn cymryd prawf diwrnod 2 sy’n negyddol,

(b)tra bo P yn ynysu yn unol â rheoliad 7 neu 8, mae P yna’n cymryd prawf ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac

(c)hysbysir P bod y prawf yn bositif.

(2) Mae’n peidio â bod yn ofynnol i P ynysu yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gymwys mewn perthynas â P.

Codi tâl am brofion

6J.(1) Caiff Gweinidogion Cymru neu berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru osod tâl mewn cysylltiad â phrofion diwrnod 2 neu brofion diwrnod 8.

(2) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)rhaid iddynt gyhoeddi manylion y taliadau mewn ffordd y maent yn ystyried ei bod yn briodol, a

(b)cânt adennill unrhyw swm sy’n ddyledus gan berson yn unol â thâl fel dyled.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Mewnosod Atodlenni 1B ac 1CLL+C

4.  Ar ôl Atodlen 1A (profi cyn cyrraedd Cymru) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewnosoder—

Rheoliad 6B

Atodlen 1BLL+CGwybodaeth archebu

Gwybodaeth archebu

1.  Manylion personol—

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)tras ethnig;

(d)dyddiad geni;

(e)rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol);

(f)rhif GIG (os yw’n hysbys ac yn gymwys);

(g)rhif ffôn;

(h)cyfeiriad cartref;

(i)cyfeiriad e-bost.

2.  Manylion y daith—

(a)cyfeiriad y fangre addas y mae P yn bwriadu preswylio ynddi fel sy’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8;

(b)dyddiad cyrraedd y Deyrnas Unedig;

(c)rhif coets;

(d)rhif hediad neu enw llestr;

(e)y dyddiad yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf;

(f)y wlad neu’r diriogaeth y bydd P yn teithio ohoni pan fydd P yn cyrraedd y Deyrnas Unedig, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y bydd P wedi bod ynddi fel rhan o’r daith honno.

Rheoliad 6B

Atodlen 1CLL+CProfi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru

Gofynion prawf diwrnod 2

1.  Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws—

(i)sy’n targedu o leiaf ddau enyn SARS-CoV-2 y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,

(ii)sy’n cynnwys rheolwaith sicrwydd in silico yn erbyn pob amrywiolyn sy’n destun pryder, a

(iii)sy’n cynhyrchu toddiant prawf sy’n darparu asid niwclëig a echdynnwyd sy’n addas ar gyfer dilyniannu genom cyfan gan ddefnyddio dull penodedig,

(b)pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—

(i)bod y ddyfais yn defnyddio dull sefydledig o ganfod moleciwlau,

(ii)bod gan y ddyfais benodolrwydd a sensitifrwydd sy’n fwy na 99% (a chyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 97% yn llwyr),

(iii)bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1000 copi SARS-CoV-2 y mililitr, neu gyfwerth â hynny, a

(iv)bod y ddyfais yn addas ar gyfer canfod pob amrywiolyn sy’n destun pryder, ac

(c)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—

(i)yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(8), ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a

(ii)wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu neu ddarparu’r prawf i P.

Gofynion prawf diwrnod 8

2.  Mae prawf diwrnod 8 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf lled-feintiol ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n targedu o leiaf ddau enyn SARS-CoV-2 y gellir gwahaniaethu rhyngddynt ac eithrio’r genyn S a rheolaethau cyfeirio perfformiad,

(b)pan fo gweithgynhyrchydd unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn datgan—

(i)bod y ddyfais yn defnyddio dull echdynnu moleciwlau,

(ii)bod gan y ddyfais benodolrwydd a sensitifrwydd sy’n fwy na 95% (a chyfwng hyder dwyochrog o 95% sydd uwchben 90% yn llwyr), a

(iii)bod gan y ddyfais derfyn canfod o lai na 1000 copi SARS-CoV-2 y mililitr, neu gyfwerth â hynny, a

(c)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf—

(i)yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002, ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig, a

(ii)wedi ei dilysu ddim mwy na 18 mis cyn gweinyddu’r prawf neu ei ddarparu i P.

Dehongli

3.  Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “dull penodedig” yw dull dilyniant wedi ei dargedu sy’n benodol i SARS-CoV-2 neu—

(i)dull amplicon cyfatebol, neu

(ii)dull cipio abwyd dilyniant cyfatebol;

(b)ystyr “wedi ei dilysu”, mewn perthynas â dyfais, yw y cadarnhawyd bod gan y ddyfais sensitifrwydd o 97% o leiaf a phenodolrwydd o 99% o leiaf ar gyfer o leiaf 150 o samplau positif a 250 o samplau negyddol, gan—

(i)Gweinidogion Cymru,

(ii)y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu

(iii)labordy sydd wedi ei achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (“UKAS”) i safon ISO 15189 neu safon ISO/IEC 17025, ac eithrio labordy sy’n prosesu profion a ddarperir gan ddarparwr y prawf at ddibenion yr Atodlen hon, neu sy’n eiddo i ddarparwr y prawf;

(c)ystyr “amrywiolyn sy’n destun pryder” yw amrywiolyn SARS-CoV-2 a nodwyd mewn dynodiad a wnaed gan y Grŵp arbenigol perthnasol yn y DU (NERVTAG ar hyn o bryd) at ddibenion y Rheoliadau hyn ac a gyhoeddir mewn ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ymwneud â chyrraedd o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygio rheoliad 9LL+C

5.  Yn rheoliad 9(2) (gofynion ynysu: esemptiadau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)person a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 12ELL+C

6.—(1Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraffau (1) i (9) rhodder—

(1) Ni chaiff person (“P”) ddod i Gymru os yw P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo P—

(a)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (h) neu (k) o Atodlen 2 neu’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o’i aelwyd;

(b)yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(i) neu (j) o Atodlen 2 pan fo’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni;

(c)yn aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person y mae is-baragraff (b) yn gymwys iddo—

(i)pan fo’r amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni mewn perthynas â’r person hwnnw,

(ii)pan fo’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi ei hysbysu bod P yn cyrraedd, a

(iii)pan fo’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau na ddylai paragraff (1) fod yn gymwys i P;

(d)yn berson a ddisgrifir yn y paragraffau a ganlyn o Atodlen 2—

(i)paragraffau 2 i 5;

(ii)paragraff 6 oni bai bod P, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar wahân i ynysoedd Açores, Madeira neu Bortiwgal;

(iii)paragraff 13 neu 13A;

(iv)paragraff 15 neu 16.

(3) Yr amodau a bennir yn y paragraff hwn yw bod, cyn i P ymadael i’r Deyrnas Unedig—

(a)pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swydd gonsylaidd neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig, neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei bod yn ofynnol i P ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swydd gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(b)y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yna wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a)—

(i)ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)bod P yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â pharagraff (1).

(4) Pan fo gair neu ymadrodd wedi ei ddiffinio at ddibenion Atodlen 2 ac yn cael ei ddefnyddio yn y rheoliad hwn, mae’r un diffiniad yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 12FLL+C

7.  Yn rheoliad 12F(2) (gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewnosoder y canlynol ar ôl is-baragraff (c)—

(d)awyren neu lestr a weithredir gan wlad neu diriogaeth dramor neu i’w chefnogi pan fo, cyn iddi neu iddo gyrraedd Cymru, Adran o’r Llywodraeth wedi darparu cadarnhad ysgrifenedig i’r gweithredwr bod yr awyren neu’r llestr yn cludo teithwyr sy’n teithio i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ymwneud â Rhannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn

Diwygio rheoliad 14LL+C

8.  Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (f), hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (g), yn lle “12D(1)” rhodder “12E”;

(iii)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(h)6B a 6C, neu

(i)6D,;

(b)ar ôl paragraff (1A) mewnosoder—

(1B) Ond nid yw person yn cyflawni trosedd os oes ganddo esgus rhesymol dros dorri rheoliad 6B neu 6C.

(1C) At ddibenion rheoliad 6B mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson archebu prawf oherwydd anabledd;

(b)pan oedd person yn ystyried yn rhesymol cyn cyrraedd Cymru na fyddai wedi bod yn rhesymol ymarferol i’r person (neu, yn ôl y digwydd, y plentyn y mae gan y person gyfrifoldeb drosto) ddarparu sampl ar gyfer prawf oherwydd anabledd;

(c)pan oedd angen triniaeth feddygol ar berson â’r fath frys fel nad oedd archebu prawf yn rhesymol ymarferol;

(d)pan oedd person yn gydymaith i berson a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (c), er mwyn darparu cymorth iddo, boed yn feddygol neu fel arall, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn gydymaith archebu prawf;

(e)pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth nad oedd gan y person fynediad rhesymol ynddi i’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau sy’n ofynnol i archebu prawf, gyda thâl neu’n ddi-dâl, ac nad oedd cyfleusterau neu wasanaethau o’r fath yn rhesymol hygyrch yn ei bwynt ymadael olaf os oedd hwnnw’n wahanol i’r lle y dechreuodd ei daith.

(1D) At ddibenion rheoliad 6C, mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan na fo’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd;

(b)pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw cymryd prawf yn rhesymol ymarferol;

(c)pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 16LL+C

9.  Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)ar ôl paragraff (6)(aa) mewnosoder—

(ab)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6D,;

(b)ar ôl paragraff (6A) mewnosoder—

(6AA) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(g), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £10,000.

(6AB) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 14(1)(h), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i drefnu profion yn unol â rheoliad 6B(3) neu (5), yn £1,000;

(b)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 6C(1) neu (3), yn £1,000;

(c)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 6C(1) neu (3), yn £2,000.;

(c)ym mharagraff (7), ar y dechrau mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7A),”;

(d)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Pan ddyroddir hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd—

(a)o dan reoliad 14(2), a

(b)sy’n ymwneud â hanes teithio person i wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £10,000.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 17LL+C

10.  Yn rheoliad 17 (defnyddio a datgelu gwybodaeth)—

(a)ym mharagraff (2), ar ol is-baragraff (a)(ii) mewnosoder—

(iii)pan fo person yn trefnu prawf o dan reoliad 6B neu’n cymryd prawf o dan reoliad 6C—

(aa)gwybodaeth a gynhyrchir pan fo’r person yn trefnu prawf, neu’n cymryd prawf;

(bb)gwybodaeth a gafwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 6B(2)(c)) o dan reoliad 6B(6);

(cc)canlyniad prawf;

(dd)gwybodaeth a gofnodwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus wrth weinyddu prawf a gymerwyd yn unol â rheoliad 6C (gan gynnwys cadarnhad bod y prawf wedi ei gymryd, manylion o ran pryd ac ymhle y’i cymerwyd, unrhyw resymau dros beidio â chymryd prawf a manylion unrhyw brawf sydd i’w gymryd yn ei le);

(iv)gwybodaeth a roddwyd i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8);

(v)pan fo sampl a gymerwyd mewn cysylltiad â phrawf diwrnod 2 o dan reoliad 6C wedi ei dilyniannu, y ffeil BAM wedi ei didoli sy’n ymwneud â’r sampl honno sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio SARS-CoV-2 gyda’r darlleniadau heb eu halinio a dynol wedi eu hepgor;;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)darparwr prawf cyhoeddus;

(d)swyddog mewnfudo.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio rheoliad 18LL+C

11.  Mae rheoliad 18 (hunanargyhuddo) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl “mewn” mewnosoder “unrhyw”;

(b)hepgorer “ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)”;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r achos ar gyfer—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn,

(b)trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(9) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw),

(c)trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006(10) (twyll), neu

(d)trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Twyll a Ffugio 1981(11) (trosedd o gopïo neu ddefnyddio offeryn ffug).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygio Atodlen 1LL+C

12.  Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

3.  Pan fo rheoliad 6B yn ei gwneud yn ofynnol i brawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 gael eu trefnu—

(a)enw darparwr y profion, a

(b)cyfeirnod y profion a ddarparwyd iddynt gan ddarparwr y prawf yn unol â rheoliad 6B(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CDiwygiadau i Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i Atodlen 2 (personau esempt)LL+C

13.—(1Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 o Atodlen 2, ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

5.  Person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall heb ddod i’r Deyrnas Unedig.

(3Yn Rhan 2 o Atodlen 2, hepgorer paragraffau 5, 12, 17 i 35, 38 a 39.

(4Ym mharagraff 36 o Atodlen 2, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “pan na ellir ymgymryd â’r gweithgaredd hwnnw yn rhesymol yn y cartref.”

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CMewnosod Atodlen 5 newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a diwygiadau i reoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Mewnosod Atodlen 5 yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol)LL+C

14.  Ar ôl Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig) mewnosoder—

Rheoliad 10(4)(m)

ATODLEN 5LL+CEithriadau sectorol

1.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig â chyflenwadau dŵr a gwasanaethau carthffosiaeth, a

(b)a gyflawnir gan ymgymerwr dŵr, ymgymerwr carthffosiaeth, trwyddedai cyflenwi dŵr, trwyddedai carthffosiaeth neu awdurdod lleol, neu ar ei ran,

pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys—

(i)archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a gweithgareddau amnewid asedau;

(ii)monitro, samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr o dan Reoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(12), Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018(13), Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Lloegr) 2016(14) neu Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2016(15);

(b)ystyr “trwyddedai carthffosiaeth” yw person sy’n ddeiliad trwydded garthffosiaeth o dan adran 17BA o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(16);

(c)mae i “gwasanaethau carthffosiaeth” yr ystyr a roddir i “sewerage services” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(17);

(d)ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr carthffosiaeth o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(18);

(e)mae i “trwyddedai cyflenwi dŵr” yr ystyr a roddir i “water supply licensee” yn adrannau 17A(7) a 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(19);

(f)ystyr “ymgymerwr dŵr” yw cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.

2.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol ar ran—

(a)Asiantaeth yr Amgylchedd(20);

(b)Cyfoeth Naturiol Cymru(21);

(c)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yng Nghymru;

(d)awdurdod llifogydd lleol arweiniol yn Lloegr.

(2) Yn is-baragraff (1), mae i “rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol” ac “awdurdod llifogydd lleol arweiniol” yr ystyron a roddir i “flood and coastal erosion risk management” a “lead local flood authority” gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(22).

3.  Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith ar ran—

(a)yr Awdurdod Glo(23);

(b)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(c)Cyfoeth Naturiol Cymru.

4.(1) Gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys—

(a)sy’n gysylltiedig—

(i)â gorsaf gynhyrchu,

(ii)â chydgysylltydd trydan,

(iii)â rhwydwaith gwres ardal fel y diffinnir “district heat network” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014(24),

(iv)â gwresogi cymunedol fel y diffinnir “communal heating” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhwydweithiau Gwres (Mesuryddion a Bilio) 2014,

(v)â systemau glanhau awtomataidd ar falast a systemau ailosod traciau ar rwydwaith, neu

(vi)â chomisiynu, cynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau diwydiannol i’w defnyddio ar rwydwaith, neu

(b)a gyflawnir gan, ar gyfer, neu ar ran—

(i)gweithredwr y system genedlaethol,

(ii)person sydd â thrwydded drawsyrru,

(iii)person sydd â thrwydded ddosbarthu,

(iv)person sydd â thrwydded o dan adrannau 7 a 7ZA o Ddeddf Nwy 1986(25),

(v)cyfleuster mewnforio neu allforio nwy naturiol hylifedig fel y diffinnir “LNG import or export facility” yn adran 48 o Ddeddf Nwy 1986(26), neu

(vi)person sydd â thrwydded rwydwaith o dan adran 8 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(27),

pan fo’r teithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “trwydded ddosbarthu” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(c) o Ddeddf Trydan 1989(28);

(b)mae “gwaith hanfodol neu waith brys” yn cynnwys comisiynu, archwiliadau, gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a gweithgareddau amnewid asedau;

(c)ystyr “gweithredwr y system genedlaethol” yw’r person sy’n gweithredu system drawsyrru genedlaethol Prydain Fawr;

(d)mae i “rhwydwaith” yr ystyr a roddir i “network” yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993(29);

(e)ystyr “trwydded drawsyrru” yw trwydded a roddwyd o dan adran 6(1)(b) o Ddeddf Trydan 1989;

(f)mae i “cydgysylltydd trydan”, “gorsaf gynhyrchu” a “system drawsyrru” yr ystyron a roddir i “electricity interconnector”, “generating station” a “transmission system” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989(30).

5.(1) Person sydd—

(a)yn bersonél niwclear, ac sy’n hanfodol i weithrediad saff a diogel safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn cysylltiad ag ef,

(b)yn ymatebydd argyfwng niwclear, neu

(c)yn arolygydd asiantaeth,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “arolygydd asiantaeth” yr ystyr a roddir i “agency inspector” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Niwclear 2000(31);

(b)ystyr “ymatebydd argyfwng niwclear” yw person sy’n rhoi cymorth i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn ar Gymorth yn Achos Damwain Niwclear neu Argyfwng Radiolegol a wnaed yn Fienna ar 26 Medi 1986, sydd wedi ei hysbysu’n briodol i’r Deyrnas Unedig ac wedi ei dderbyn ganddi, pan fo’r Deyrnas Unedig wedi gofyn am gymorth o dan y Confensiwn hwnnw;

(d)ystyr “personél niwclear” yw—

(i)gweithiwr a gyflogir i gyflawni gwaith ar safle neu mewn perthynas â safle y rhoddwyd trwydded safle niwclear mewn cysylltiad ag ef, neu

(ii)cyflogai i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear(32);

(e)mae i “trwydded safle niwclear” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence” yn adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(33).

6.  Arolygydd o’r Sefydliad Gwahardd Arfau Cemegol, o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” gan adran 24(e) o Ddeddf Arfau Cemegol 1996(34), sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion arolygiad.

7.(1) Person sydd—

(a)yn cyflawni swyddogaeth hanfodol ar safle gofod,

(b)yn rheolwr llongau gofod sy’n gyfrifol am lywio a rheoli cerbyd lansio neu long ofod ar gyfer gweithrediadau enwol, osgoi gwrthdrawiadau neu anomaleddau, neu

(c)a gyflogir gan berson sy’n gweithredu neu’n cynnal galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod, neu sydd o dan gontract i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs y gwaith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “safle gofod” yr ystyr a roddir i “space site” ym mharagraff 5(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018(35);

(b)ystyr “galluoedd ymwybyddiaeth o sefyllfa’r gofod” yw’r synwyryddion, y systemau a’r gwasanaethau dadansoddi y mae eu hangen i roi rhybuddion sy’n sensitif o ran amser ynglŷn â digwyddiadau tywydd yn y gofod, gwrthdrawiadau orbitol, drylliadau orbitol neu ailfynediad gwrthrychau a wnaed gan bobl o’u horbit;

(c)mae i “llong ofod” yr ystyr a roddir i “spacecraft” yn adran 2(6) o Ddeddf y Diwydiant Gofod 2018;

(d)ystyr “rheolwr llong ofod” yw person sy’n gymwys, sydd wedi ei awdurdodi ac sy’n gyfrifol am gynnal gweithrediad saff a diogel llong ofod drwy fonitro statws llong ofod, rhoi gorchmynion llywio neu reoli agweddau eraill ar y llong ofod sy’n dylanwadu ar ei hymddygiad gan gynnwys ei symudiadau yn y gofod.

8.(1) Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’r peiriannydd neu’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol at ddiben sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd, ond heb ei gyfyngu i hynny);

(b)ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau fel sy’n ofynnol gan y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd(36).

9.(1) Person sy’n ymgymryd â gweithgareddau gweithredu, cynnal a chadw neu ddiogelwch cyfleuster yn y sector olew is sydd â chapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli—

(a)pan fo’r cyfleuster yn y sector olew is yn ymgymryd â gweithgaredd penodedig a gyflawnir yn y Deyrnas Unedig yng nghwrs busnes, ac yn cyfrannu (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) at gyflenwi tanwyddau sy’n seiliedig ar olew crai i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig neu bersonau sy’n cynnal busnes yn y Deyrnas Unedig, a

(b)pan fo angen y gweithgareddau er mwyn sicrhau bod y cyfleuster yn parhau i weithredu’n ddiogel,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae gan gyfleuster gapasiti o fwy nag 20,000 o dunelli ar unrhyw adeg os cafodd ei ddefnyddio yn y flwyddyn galendr flaenorol at ddibenion gweithgareddau’r sector olew is mewn perthynas â mwy na’r nifer hwnnw o dunelli o olew;

(b)“gweithgareddau penodedig” yw—

(i)storio olew;

(ii)trafod olew;

(iii)cludo olew ar y môr neu ar ddŵr mewndirol;

(iv)cludo olew drwy bibellau;

(v)puro olew neu ei brosesu fel arall.

10.(1) Gweithiwr y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â’r canlynol neu y mae’n ofynnol iddo gychwyn y canlynol o fewn y cyfnod y byddai, oni bai am y paragraff hwn, wedi bod yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu (o fewn ystyr rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn)—

(a)gweithgareddau ar osodiad alltraeth neu mewn perthynas ag ef,

(b)gweithgareddau ar seilwaith y sector petrolewm uwch neu mewn perthynas ag ef,

(c)gwaith diogelwch critigol ar osodiad neu ffynnon alltraeth sy’n cael ei ddatgomisiynu neu ei datgomisiynu neu ei gadw neu ei chadw hyd nes y caiff ei ddymchwel neu ei dymchwel neu ei ailddefnyddio neu ei hailddefnyddio, neu

(d)gweithgareddau i ddarparu gweithwyr, nwyddau, deunyddiau neu gyfarpar neu wasanaethau hanfodol eraill y mae eu hangen i gefnogi gweithrediad diogel y gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (c),

pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae i “gosodiad alltraeth” yr ystyr a roddir i “offshore installation” yn adran 44 o Ddeddf Petrolewm 1998(37);

(b)mae i “seilwaith y sector petrolewm uwch” yr ystyr a roddir i “upstream petroleum infrastructure” yn adran 9H o Ddeddf Petrolewm 1998(38);

(c)mae i “ffynnon” yr ystyr a roddir i “well” yn adran 45A(10) o Ddeddf Petrolewm 1998(39).

11.  Gweithredydd post, fel y diffinnir “postal operator” yn adran 27(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011(40), pan fo’r gweithredydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

12.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau hanfodol neu frys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.

13.  Gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith hanfodol neu waith brys (gan gynnwys adeiladu, comisiynu, gosod, cynnal a chadw, atgyweirio a gwiriadau diogelwch) neu i gyflawni rhwymedigaethau contract neu fanylebau gwarantiad mewn cyfleusterau rheoli gwastraff a ddefnyddir ar gyfer rheoli, didoli, trin, adfer neu waredu gwastraff (gan gynnwys ynni o wastraff), neu mewn cysylltiad â hynny, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

14.(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cludo deunydd a ffurfir o gelloedd dynol neu waed, neu sy’n cynnwys hynny, ac sydd i’w ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaeth iechyd gan ddarparwr gwasanaethau iechyd.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)mae “gwaed” yn cynnwys cydrannau gwaed;

(b)mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(8).

15.  Person sy’n “arolygydd” o fewn yr ystyr a roddir i “inspector” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(41) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

16.(1) Person sydd—

(a)wedi teithio i’r Deyrnas Unedig—

(i)i gynnal treial clinigol o fewn ystyr “conducting a clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(42),

(ii)i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal treial clinigol, neu

(iii)i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol mewn perthynas â threial clinigol na ellir ei gynnal o bell,

(b)yn berson cymwys o fewn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 43 o’r Rheoliadau hynny, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath, neu

(c)yn noddwr treial clinigol o fewn yr ystyr a roddir i “sponsor” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny, neu’n cyflawni swyddogaethau neu ddyletswyddau noddwr o’r fath, ac sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r treial clinigol.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.

17.  Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal ymchwiliad clinigol o fewn yr ystyr a roddir i “clinical investigation” yn Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(43), neu i ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n angenrheidiol neu’n hwylus i baratoi at gynnal ymchwiliad clinigol neu i gyflawni unrhyw weithgarwch cydymffurfio angenrheidiol arall mewn perthynas ag ymchwiliad clinigol na ellir ei gynnal o bell.

18.(1) Person sydd—

(a)yn berson cymwys o fewn yr ystyr a roddir i “qualified person” yn rheoliad 41(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(44),

(b)yn berson cyfrifol o fewn yr ystyr a roddir i “responsible person” yn rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau hynny, neu

(c)yn berson â chymwysterau priodol sy’n gyfrifol am wyliadwriaeth ffarmacolegol o fewn yr ystyr a roddir i “an appropriately qualified person responsible for pharmacovigilance” yn rheoliad 182(2)(a) o’r Rheoliadau hynny,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’i rôl fel person o’r fath.

19.(1) Person sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddibenion ei waith mewn diwydiannau seilwaith hanfodol gan gynnwys—

(a)person sy’n ymwneud â gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar seilwaith data y mae ei angen i leihau a datrys diffoddiadau, neu â darparu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gweithgareddau hyn, a

(b)gweithiwr proffesiynol technoleg gwybodaeth neu delathrebu (gan gynnwys ymgynghorydd technoleg gwybodaeth, dadansoddwr ansawdd, profwr meddalwedd, profwr systemau, a chynllunydd telathrebu), y mae angen ei arbenigedd er mwyn—

(i)darparu ymateb hanfodol neu frys i fygythiadau a digwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth, a

(ii)sicrhau bod unrhyw system rhwydwaith a gwybodaeth yn parhau i weithredu.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae i “system rhwydwaith a gwybodaeth” yr ystyr a roddir i “network and information system” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth 2018(45).

20.  Person sy’n ymgymryd â gwaith brys neu waith hanfodol—

(a)sy’n angenrheidiol er mwyn parhau i weithredu—

(i)rhwydweithiau a gwasanaethau cyfathrebu electronig fel y diffinnir “electronic communications network” ac “electronic communications service” yn adran 32 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(46), neu

(ii)rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru darllediadau’r BBC,

(b)mewn cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy’n cynnal cyfrinachedd, cyflawnder ac argaeledd y rhwydweithiau a’r gwasanaethau cyfathrebu electronig a rhwydwaith a gwasanaethau trawsyrru’r BBC,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

21.(1) Person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig—

(a)sy’n athletwr elît a fu’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth elît dramor,

(b)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor,

(c)a fu’n gwasanaethu fel swyddog mewn cystadleuaeth elît dramor, neu a fu’n ymwneud â’i rhedeg,

(d)sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,

(e)a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît mewn rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,

pan fo’r person wedi teithio i’r Deyrnas Unedig er mwyn dychwelyd o’r gystadleuaeth elît dramor neu’r rhaglen hyfforddi dramor.

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)ystyr “athletwr elît” yw person—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru,

(iii)sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (er bod y Rheoliadau hynny wedi eu dirymu), neu

(iv)nad yw’n dod o fewn is-baragraff (i), (ii) na (iii) sy’n cymryd rhan yng nghynghrair Pencampwyr UEFA neu yng nghynghrair Europa UEFA;

(b)ystyr “cystadleuaeth elît” yw cystadleuaeth chwaraeon y mae unrhyw un neu ragor o’r cyfranogwyr yn cystadlu ynddi—

(i)i ennill bywoliaeth, neu

(ii)i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad, neu fel rhan o’r broses ddethol ar gyfer y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd neu Gemau’r Gymanwlad;

(c)ystyr “cystadleuaeth elît dramor” yw cystadleuaeth elît sy’n cael ei chynnal y tu allan i’r Deyrnas Unedig; ac mae person i’w drin fel pe bai wedi dychwelyd o gystadleuaeth o’r fath os yw’r person, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â diwrnod ynysu olaf y person, wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt at ddibenion cystadleuaeth o’r fath.

22.  Person—

(a)sy’n ymgymryd â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,

(b)y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,

pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau)LL+C

15.—(1Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 10(4), ar ôl is-baragraff (k) mewnosoder—

(l)at ddiben cael prawf am y coronafeirws a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(m)pan fo P yn berson sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau yn Atodlen 5, er mwyn teithio yn uniongyrchol i unrhyw fan neu o unrhyw fan lle y mae presenoldeb P yn ofynnol at ddibenion gwaith P, neu at ddibenion gweithgaredd y mae’r paragraff perthnasol yn Atodlen 5 yn ymwneud ag ef (yn ôl y digwydd), a phan fo P yn bresennol yn y man hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CDiwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ynghylch hepgor darpariaethau o Atodlen 2 ac ychwanegu Atodlen 5

Diwygiadau i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ynghylch hepgor darpariaethau penodol o Atodlen 2 ac ychwanegu Atodlen 5LL+C

16.  Yn rheoliad 3, hepgorer paragraffau (2)(b) a (3)(f).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

17.—(1Mae rheoliad 6A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (4)(a)—

(a)hepgorer “12 neu 28”;

(b)ar ôl “10,” mewnosoder “neu”.

(3Ar ôl paragraff (4)(c) mewnosoder—

(d)person a ddisgrifir ym mharagraff 24 o Atodlen 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

18.  Yn rheoliad 9(2)(b), yn lle “mharagraffau 2 i 39 o Atodlen 2” rhodder “mharagraffau 2 i 16 ac 36 o Atodlen 2”.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

19.—(1Mae rheoliad 10(8) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “athletwr elît”, yn lle “mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2” rhodder “mharagraff 31(2)(a) o Atodlen 5”.

(3Yn y diffiniad o “cystadleuaeth elît”, yn lle “mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2” rhodder “mharagraff 31(2)(b) o Atodlen 5”.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CDiwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedigLL+C

20.—(1Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraffau 1 i 25 rhodder—

  • Gornestau Rygbi’r Gynghrair Super League Betfred,

  • Gornestau Criced Rhyngwladol Bwrdd Criced Cymru a Lloegr,

  • Gornestau Clybiau Rygbi Proffesiynol Ewrop,

  • Gornestau Hoci FIH Pro League,

  • Gornestau Rhyngwladol y Gymdeithas Bêl-droed,

  • Gornestau Rygbi’r Undeb Guinness PRO14,

  • Matchroom – Gemau Pencampwriaeth Bocsio,

  • Digwyddiadau rhagbrofol y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Pencampwriaeth y Chwaraewyr,

  • Gornestau Rhyngwladol Rygbi’r Undeb,

  • Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair,

  • Gornestau Cynghrair Pencampwyr UEFA a Chynghrair Europa UEFA,

  • Taith Snwcer y Byd – Shoot Out,

  • Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors,

  • Bwrdd Criced Cymru a Lloegr – y T20 Blast,

  • Bwrdd Criced Cymru a Lloegr – Cwpan Rachael Heyhoe Flint,

  • Matchroom – Twrnamaint Snwcer Cynghrair y Bencampwriaeth,

  • Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol – Queensberry Promotions,

  • Motorsport UK – Pencampwriaeth Ceir Gwyllt Prydain,

  • Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol – MTK Promotions,

  • Pencampwriaethau Badminton Agored Lloegr Gyfan Yonex,

  • Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr I – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate,

  • Noson Ymladd Taekwondo Prydain Fawr II – Digwyddiad Rhyngwladol Taekwondo, Para Taekwondo a Karate,

  • Uwch-gyfres Cwrlo Ewrop,

  • Matchroom – Pencampwriaeth Pŵl y Byd,

  • Hennessy Sports – Gemau Pencampwriaeth Bocsio Rhyngwladol,

  • British Judo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain,

  • Cyfarfod Rhyngwladol British Swimming,

  • Motorsport UK – Pencampwriaeth Rali Groes Prydain a’r Bencampwriaeth Gefnogi,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrokes,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Uwch-gynghrair Unibet,

  • Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen,

  • Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr,

  • Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Cymru,

  • Rasio ceffylau - Betfair Ascot Chase Day,

  • Rasio ceffylau - Betfair Hurdle Day,

  • Gemau ail gyfle Cwpan Billie Jean King gan BNP Paribas – Prydain Fawr v Mecsico,

  • Digwyddiadau Tennis Cadair Olwyn Dan Do Bolton ITF,

  • Cwpan y Byd Gymnasteg FIG,

  • Gemau Prawf Olympaidd a Pharalympaidd Taekwondo Prydain Fawr,

  • Rasio ceffylau - Grand National Trial Day,

  • Rasio ceffylau - Cyfarfod yr Imperial Cup,

  • Rasio ceffylau - Cyfarfod y Lincoln Handicap,

  • Matchroom – Cynghrair Pencampwriaeth Pŵl,

  • Matchroom – Sêr Gymnasteg,

  • Matchroom - Meistri Ping Pong y Byd,

  • Rasio ceffylau - Cyfarfod y Midlands National,

  • Digwyddiad Prawf y Pentathlon Modern,

  • Cwpan y Byd Codi Pwysau Para,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Taith Her,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Taith Ddatblygu,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Cystadleuaeth Agored y DU,

  • Pencampwriaeth Rygbi’r Gynghrair Betfred,

  • Rasio ceffylau - The Festival at Cheltenham,

  • Pencampwriaeth y Pedair Gwlad Rygbi Cadair Olwyn,

  • Twrnamaint Pêl-droed Wahodd Ryngwladol y Menywod (o dan ofal y Gymdeithas Bêl-droed),

  • Taith Snwcer y Byd – Cyfres Pro Tour,

  • Taith Snwcer y Byd – Cystadleuaeth Agored Gibraltar,

  • Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Daith,

  • Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – yr Ysgol Gymhwyso,

  • Bocsio Rhyngwladol - Dennis Hobson Promotions,

  • Super League Triathlon Arena Games Llundain,

  • Rowndiau rhagbrofol cyfres Winter Classic British Showjumping,

  • British Dressage - Cystadleuaeth Ryngwladol Keysoe,

  • Digwyddiadau Llwybr Elît British Eventing,

  • Cystadleuaeth Sboncen Agored Manceinion 2021,

  • Boxing Road to Tokyo,

  • Cwpan y Cenhedloedd Seiclo ar y Trac,

  • Cage Warriors 120,

  • Vitality Big Half,

  • Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Byd Betfred (gan gynnwys y rowndiau rhagbrofol),

  • Matchroom - Meistri Pŵl y Byd,

  • Rasio ceffylau - All-Weather Finals Day,

  • Rasio ceffylau - Challenger Series Finals Day,

  • Rasio ceffylau – Cyfarfod Aintree Grand National,

  • Rasio ceffylau – Cyfarfod Craven,

  • Rasio ceffylau – Cyfarfod Ebrill Cheltenham,

  • Rasio ceffylau – Cyfarfod Cenedlaethol yr Alban,

  • Rasio ceffylau – Cyfarfod Greenham,

  • Rasio ceffylau - Classic Trial Day a’r Jumps Finale Day,

  • Ras Ryngwladol Burnham Market.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CDarpariaeth Drosiannol

Darpariaeth drosiannolLL+C

21.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â pherson a gyrhaeddodd Gymru cyn 15 Chwefror 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

13 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod a bennir yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno gofynion profi mandadol mewn cysylltiad â’r coronafeirws ar gyfer pob teithiwr i Gymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt. Mae rheoliad 2 yn mewnosod Rhan 2B newydd y mae rheoliad 6B ohoni yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sy’n cyrraedd o wledydd a thiriogaethau nad ydynt yn esempt archebu a thalu am brofion sydd i’w cymryd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl cyrraedd Cymru. Mae rheoliad 6C yn ei gwneud yn ofynnol i brofion gael eu cymryd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8 ar ôl cyrraedd Cymru ac os methir â chymryd prawf mae rheoliad 6D yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr ynysu am 14 o ddiwrnodau. Mae rheoliad 6E yn darparu ar gyfer y cyfnod ynysu os ceir canlyniad prawf positif. Mae Rhan 2A yn cyflwyno Atodlen 1B (gwybodaeth archebu) sy’n amlinellu’r wybodaeth archebu y mae’n ofynnol i deithwyr ei rhoi fel rhan o’r darpariaethau trefnu prawf yn rheoliad 6B. Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) hefyd yn cael ei mewnosod er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion a safonau technegol y prawf diwrnod 2 a’r prawf diwrnod 8.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod mesurau ychwanegol yn ymwneud â chyrraedd o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A. Mae rheoliad 12E wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud darpariaeth i wahardd personau nad ydynt yn esempt sydd wedi bod mewn gwlad Atodlen 3A o fewn 10 niwrnod o gyrraedd, rhag dod i Gymru.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n deillio o’r diwygiadau a wneir gan Rannau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 14 wedi ei ddiwygio i wneud darpariaeth ar gyfer troseddau o dorri gofynion y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 16 wedi ei ddiwygio i bennu gwerthoedd hysbysiadau cosb benodedig am droseddau o ddarparu gwybodaeth ffug/gamarweiniol mewn perthynas â theithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3, am fethu â bod wedi archebu prawf wrth gyrraedd, am fethu â chymryd prawf mandadol ac am dorri’r gofyniad yn rheoliad 12E. Mae rheoliad 17 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n ymwneud â defnyddio a datgelu gwybodaeth, wedi ei ddiwygio er mwyn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr “Gwybodaeth am Deithiwr o Gymru” mewn perthynas â’r rheini y mae’n ofynnol iddynt ynysu. Mae rheoliad 18 ynghylch ‘hunanargyhuddo’ wedi ei ddiwygio er mwyn darparu ar gyfer troseddau o dan Ddeddf Twyll 2006 a Deddf Twyll a Ffugio 1981 mewn perthynas â darparu’r wybodaeth hon o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n esemptio categorïau penodol o weithiwr rhag gorfod ynysu, neu o dan amgylchiadau penodol, rhag gorfod darparu gwybodaeth am deithiwr. Mae rheoliad 14 yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 er mwyn mewnosod darpariaeth sy’n esemptio’r rheini sy’n tramwyo drwy’r Deyrnas Unedig rhag y gofyniad i ynysu yn ogystal â rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr. Mae hefyd yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 er mwyn hepgor paragraffau 5, 12, 17 i 35, 38 a 39 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn creu eithriadau newydd rhag y gofynion i ynysu yn unol â rheoliadau 7 ac 8 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 15 yn mewnosod Atodlen 5 newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol). Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 10(4) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau) mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, er mwyn caniatáu i bobl ymadael â’u mangre ynysu at ddiben cael prawf am y coronafeirws. Yn ail, er mwyn darparu y caniateir i’r categorïau o weithwyr a restrir yn yr Atodlen 5 newydd ymadael â’u mangre ynysu er mwyn gwneud eu gwaith pan na fo modd iddynt wneud hynny o’u cartref.

Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewn perthynas â hepgor gweithwyr Twnnel y Sianel o restr Atodlen 2 o bersonau esempt ac yn gwneud mân newidiadau i Atodlen 5 i’r Rheoliadau hynny.

Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig). Mae rheoliad 9 yn rhoi rhestr wedi ei diweddaru yn lle’r rhestr bresennol o ddigwyddiadau chwaraeon.

Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(9)

1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).

(14)

O.S. 2016/618; offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2017/506, O.S. 2018/707 ac O.S. 2019/558.

(16)

1991 p. 56. Mewnosodwyd adran 17BA(6) gan adran 4(1) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21). Mewnosodwyd y cyfeiriad at “sewerage licensee” yn adran 219(1) gan baragraff 120(2)(f) o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(17)

1991 p. 56. Diwygiwyd y diffiniad o “sewerage services” gan baragraff 120 o Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(18)

Diwygiwyd adran 6 gan adran 36(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37) ac Atodlen 8 iddi, Atodlen 23 i Ddeddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), ac Atodlen 7 i Ddeddf Dŵr 2014.

(19)

Mewnosodwyd adran17A gan adran 1 o Ddeddf Dŵr 2014.

(20)

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25).

(21)

Mae Adnoddau Naturiol Cymru yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)).

(23)

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff corfforedig a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 (p. 21).

(24)

O.S. 2014/3120. Nid oes unrhyw offerynnau diwygio perthnasol.

(25)

1986 p. 44. Mewnosodwyd adran 7ZA gan adran 149(6) o Ddeddf Ynni 2004.

(26)

Mewnosodwyd y diffiniad gan O.S. 2011/2704.

(29)

Mae diwygiadau i adran 83(1) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(30)

Mewnosodwyd y diffiniad o “electricity interconnector” gan adran 147(7) o Ddeddf Ynni 2004. Amnewidiwyd y diffiniad o “transmission system” gan baragraff 15 o Atodlen 19 i Ddeddf 2004.

(31)

2000 p. 5.

(32)

Sefydlwyd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear gan adran 1 o Ddeddf Ynni 2004.

(33)

1965 p. 57. Amnewidiwyd adran 1 gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32); yn rhinwedd adran 1(2), cyfeirir at drwydded a ddisgrifir yn adran 1(1) fel “nuclear site licence”.

(34)

1996 p. 6.

(35)

2018 p. 5.

(36)

Sefydlwyd yr Awdurdod Hedfan Sifil o dan adran 1(1) o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75). Disodlwyd y Ddeddf honno gan statud cydgrynhoi, Deddf Hedfan Sifil 1982 (p. 16), y mae adran 2(1) ohoni yn darparu ar gyfer parhad yr Awdurdod Hedfan Sifil. Mae diwygiadau i adran 2 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Sefydlwyd Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd gan Reoliad (EU) 2018/1139 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 4 Gorffennaf 2018 ar reolau cyffredin ym maes hedfan sifil a sefydlu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd, a Rheoliadau diwygio (EC) Rhif 2111/2005, (EC) Rhif 1008/2008, (EU) Rhif 996/2010, (EU) Rhif 376/2014 a Chyfarwyddebau 2014/30/EU a 2014/53/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n diddymu Rheoliadau (EC) Rhif 552/2004 ac (EC) Rhif 216/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3922/91.

(37)

1998 p. 17. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 11 o Atodlen 1 i Ddeddf Ynni 2008 (p. 32).

(38)

Amnewidiwyd adran 9H gan adran 74(2) o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20).

(39)

Amnewidiwyd adran 45A gan adran 75(1) o Ddeddf Ynni 2008. Mae diwygiadau i adran 45A(10) ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(40)

2011 p. 5.

(42)

O.S. 2004/1031, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(46)

2003 p. 21. Diwygiwyd y diffiniad o “electronic communications network” gan O.S. 2011/1210.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources