- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
3. Ar ôl Rhan 2A (hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol mewnosoder—
6B.—(1) Mae’r rheoliad hwn a rheoliad 6C yn gymwys i berson (“P”) 5 oed neu drosodd sy’n ddarostyngedig i ofyniad ynysu o dan reoliad 7 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig) neu 8 (gofyniad i ynysu: cyrraedd o ran arall o’r Deyrnas Unedig).
(2) Yn y Rhan hon—
(a)“prawf diwrnod 2” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C;
(b)“prawf diwrnod 8” yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 2 o Atodlen 1C;
(c)“darparwr prawf cyhoeddus” yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(2), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(3), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4).
(3) Cyn cyrraedd Cymru, rhaid i P drefnu â darparwr prawf cyhoeddus i gymryd—
(a)prawf diwrnod 2, a
(b)prawf diwrnod 8,
ar ôl i P gyrraedd Cymru.
(4) Ond nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3) os yw person arall wedi trefnu’r profion ar ran P cyn i P gyrraedd Cymru.
(5) Pan fo P yn blentyn sy’n cyrraedd Cymru gyda pherson (“C”) sydd â chyfrifoldeb dros P—
(a)(oni bai bod paragraff (4) yn gymwys i P) rhaid i C drefnu profion yn unol â pharagraff (3) ar ran P, a
(b)nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (3).
(6) Nid yw prawf i’w drin fel pe bai wedi ei drefnu yn unol â’r rheoliad hwn oni bai—
(a)bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu’r darparwr prawf cyhoeddus bod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, a
(b)bod yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1B wedi ei darparu i’r darparwr prawf cyhoeddus mewn perthynas â P.
(7) Pan drefnir y profion, rhaid i’r darparwr prawf cyhoeddus ddarparu cyfeirnod prawf—
(a)i P, a
(b)i unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.
(8) Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo rhaid i P, neu C os yw P yn blentyn, ddarparu cyfeirnod y prawf neu dystiolaeth arall i’r swyddog fod y profion wedi eu trefnu ar ran P.
6C.—(1) Wrth gyrraedd Cymru, rhaid i P gymryd—
(a)prawf diwrnod 2, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(b)prawf diwrnod 8, a weinyddir gan ddarparwr prawf cyhoeddus, heb fod yn gynharach na diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Ond nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys pan fo prawf diwrnod 2 P yn cynhyrchu canlyniad positif.
(3) Pan fo P yn blentyn, rhaid i unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb dros P sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod P yn cydymffurfio â pharagraff (1).
(4) Pan na fo P yn cymryd prawf diwrnod 2 fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf arall sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2.
(5) Pan gymerir prawf arall yn lle prawf diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai P wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.
6D.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn methu â chymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) ac yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b), neu
(b)yn cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â rheoliad 6C(1)(a) (sy’n negyddol neu’n amhendant) ond yn methu â chymryd prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1)(b).
(2) Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(3) Ond pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a—
(a)bod y canlyniad yn bositif, mae rheoliad 6E yn gymwys fel pe bai’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 6C;
(b)bod y canlyniad yn negyddol, mae rheoliad 6G yn gymwys fel pe bai—
(i)P wedi cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1), a
(ii)bod y ddau brawf yn negyddol.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf diwrnod 8 a gymerir—
(a)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond
(b)cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
6E. Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif—
(a)nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru), a, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(5) yn gymwys mewn perthynas â P, a
(b)diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
6F.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6C yn bositif a bod P yn preswylio gyda pherson arall (“A”)—
(a)sydd o dan ofyniad i ynysu o dan reoliad 7 neu 8, a
(b)y byddai ei ddiwrnod ynysu olaf, oni bai am y rheoliad hwn, yn cael ei bennu yn unol â rheoliad 12.
(2) Diwrnod ynysu olaf A o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf A).
(3) Ond nid yw hyn yn gymwys pan fo—
(a)y prawf positif y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) yn brawf diwrnod 8 a gymerwyd gan P yn unol â rheoliad 6C(1)(b), a
(b)A wedi cael canlyniad positif i brawf diwrnod 2 a gymerodd A yn unol â rheoliad 6C(1)(a).
6G.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cymryd prawf diwrnod 2 a phrawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C(1),
(b)yn cael canlyniad negyddol i’r prawf diwrnod 2, ac
(c)heb gael canlyniad y prawf diwrnod 8 cyn diwedd diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 (fel y’i pennir o dan reoliad 12).
(2) Os yw canlyniad prawf diwrnod 8 P yn negyddol, diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw’r diwrnod y mae P yn cael canlyniad y prawf diwrnod 8 (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
6H.—(1) Pan fo canlyniad prawf y mae person (“P”) yn ei gymryd yn unol â rheoliad 6C yn amhendant, pennir diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yn unol â pharagraff (2) (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).
(2) Diwrnod ynysu olaf P yw—
(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf, neu
(b)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn negyddol, y diweddaraf o’r canlynol—
(i)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf, neu
(ii)y diwrnod y mae P yn cael y canlyniad negyddol, neu
(c)pan fo P yn cymryd prawf y mae paragraff (4) yn gymwys iddo a bod canlyniad y prawf yn bositif, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.
(3) Pan fo paragraff (2)(c) yn gymwys, nid yw’n ofynnol i P gymryd y prawf diwrnod 8 yn unol â rheoliad 6C.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
(a)prawf diwrnod 8 a gymerir yn unol â rheoliad 6C(1)(b);
(b)prawf diwrnod 8 a gymerir—
(i)cyn diwedd cyfnod ynysu P fel y byddai wedi ei bennu o dan reoliad 12 pe na bai paragraff (1) yn gymwys, ond
(ii)cyn diwedd y seithfed diwrnod ar ôl y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
6I.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a)P yn cymryd prawf diwrnod 2 sy’n negyddol,
(b)tra bo P yn ynysu yn unol â rheoliad 7 neu 8, mae P yna’n cymryd prawf ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac
(c)hysbysir P bod y prawf yn bositif.
(2) Mae’n peidio â bod yn ofynnol i P ynysu yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn gymwys mewn perthynas â P.
6J.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru neu berson a ddynodir gan Weinidogion Cymru osod tâl mewn cysylltiad â phrofion diwrnod 2 neu brofion diwrnod 8.
(2) O ran Gweinidogion Cymru—
(a)rhaid iddynt gyhoeddi manylion y taliadau mewn ffordd y maent yn ystyried ei bod yn briodol, a
(b)cânt adennill unrhyw swm sy’n ddyledus gan berson yn unol â thâl fel dyled.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 3 mewn grym ar 15.2.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: