- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
8 Medi 2020
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 9 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 11.00 a.m. ar 9 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Medi 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y cofnod sy’n ymwneud â Gwlad Groeg—
(a)yn lle “Mykanos” rhodder “Mykonos”;
(b)ar ôl “Paros,” mewnosoder “Santorini, Serifos, Tinos”.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 9 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod yn Santorini, Serifos neu Tinos ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 9 Medi 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn Santorini, Serifos neu Tinos, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn tiriogaeth o’r fath.
(3) Yn rheoliad 3(2)(a) o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhynglwadol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8)(3) 2020, yn lle “Mykanos” rhodder “Mykonos”
4.—(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—
“(d)Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - y T20 Blast;
(e)Bwrdd Criced Cymru a Lloegr - Cwpan Rachael Heyhoe Flint.”
(3) Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—
“(f)Matchroom - Twrnamaint Snwcer Cynghrair y Bencampwriaeth.”
(4) Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder—
“(f)Teitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Uwch Ewropeaidd Sefydliad Bocsio’r Byd;
(g)Teitl Pencampwriaeth Pwysau Ysgafn Uwch y Byd.”
(5) Ar y diwedd mewnosoder—
“18. Gymnasteg - Gornest 4-Ffordd Dan 18 Gymnasteg Prydain.
19. Crefft Ymladd Cymysg - Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
8 Medi 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714 (Cy. 160));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726 (Cy. 163));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804 (Cy. 177));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817 (Cy. 179));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840 (Cy. 185));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868 (Cy. 190));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886 (Cy. 196));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917 (Cy. 205));
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944 (Cy. 210)).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor tiriogaethau Santorini, Serifos a Tinos yng Ngwlad Groeg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gwneud diwygiad sy’n cywiro sillafiad Mykonos.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’r rheoliad hwn hefyd yn diwygio rheoliad 3(2)(a) o’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhynglwadol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 i gywiro sillafu cyfeirad at Mykonos.
Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu digwyddiadau pellach at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: