- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) sy’n gosod rhwymedigaethau ar wahanol bersonau at ddiben atal mynychder neu ledaeniad haint neu halogiad, diogelu rhagddo, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd iddo.
Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod “Brech y mwncïod” yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Clefydau a Syndromau” y mae dyletswydd ar ymarferwyr meddygol i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os credir bod clefyd neu syndrom o’r fath ar glaf y maent yn ei wasanaethu. Mae’r ddyletswydd hon yn estyn i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn corff marw.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod “Firws brech y mwncïod” yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Cyfryngau Achosol” y mae dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os ydynt yn darganfod cyfrwng, neu dystiolaeth o gyfrwng o’r fath, mewn sampl ddynol.
Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymateb i’r achosion presennol o frech y mwncïod yn y DU.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: