xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 20 (Cy. 7)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 4.07 p.m. ar 8 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.00 p.m. ar 8 Ionawr 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);

(b)ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3).

RHAN 2Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd a thiriogaethau o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—

Dinas Jerwsalem

Gweriniaeth Botswana

Israel

Mauritius

Seychelles.

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

RHAN 3Diwygiadau i Ran 3 a Rhan 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiad i Ran 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

4.  Hepgorer rheoliad 12C (rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Darpariaeth arbed mewn cysylltiad â rheoliad 4

5.  Pan fo rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, yn union cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021, mae’n parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymu gan reoliad 4.

Hepgor Rhan 3B (teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

6.  Hepgorer Rhan 3B (teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

RHAN 4Ychwanegu Rhan 3C ac Atodlen 3A at y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Mewnosod Rhan 3C (teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A)

7.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—

RHAN 3CTeithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A

12E.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—

(a)wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.

(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.

(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.

(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).

(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.

(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.

(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—

(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—

(a)cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;

(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;

(iii)i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(b)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;

(c)i deithio at ddiben gadael Cymru.

Gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A rhag cyrraedd

12F.(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai bod gwneud hynny yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sicrhau—

(a)diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu

(b)iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

(a)awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;

(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;

(c)awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.

(3) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cyrraedd” yw—

(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;

(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;

(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.

(3Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder—

Rheoliadau 12E a 12F

ATODLEN 3AGwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol

RHAN 5Diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau

Diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau

8.—(1Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 4(7).

(3Yn rheoliad 11A—

(a)yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;

(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwlad restredig”;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “y gadawodd P De Affrica” rhodder “yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf”;

(d)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig —

(a)Teyrnas Eswatini;

(b)Teyrnas Lesotho;

(c)Gweriniaeth Angola;

(d)Gweriniaeth Botswana;

(e)Gweriniaeth Malaŵi;

(f)Gweriniaeth Mauritius;

(g)Gweriniaeth Mozambique;

(h)Gweriniaeth Namibia;

(i)Gweriniaeth Seychelles;

(j)Gweriniaeth Zambia;

(k)Gweriniaeth Zimbabwe.

(4Yn rheoliad 11B—

(a)yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;

(b)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “neu risg arall o niwed difrifol” rhodder “, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol”.

(5Yn rheoliad 38(c), yn y testun Saesneg, ar ôl “(2)” mewnosoder “of”.

(6Yn rheoliad 57(1)(t)(i), yn lle “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3” rhodder “neu o fewn yr ardal Haen 4”.

(7Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn lle “, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos” rhodder “a chartrefi arddangos”.

(8Hepgorer Atodlen 6.

RHAN 6Diwygiad i destun Cymraeg Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygiad i Ran 4 (gorfodi a throseddau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

9.  Yn rheoliad 14 (troseddau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn y testun Cymraeg, yn is-baragraff (1)(c) hepgorer “neu”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 4.07 p.m. ar 8 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335))) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”.

Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Botswana, Israel, Mauritius a Seychelles.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhannau 3 a 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn mewnosod Rhan 3C ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod rheolau arbennig ar unrhyw berson sy’n teithio o Dde Affrica ac aelodau o aelwyd y person hwnnw. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn cysylltiad â hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor rheoliad 12D yn Rhan 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau 12E a 12F ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 7(1) yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n ymwneud â mesurau ychwanegol ar gyfer gwledydd a thiriogaethau penodedig yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ar ffurf rheoliad 12E newydd. Mae’r rheoliad 12E newydd yn debyg i’r rheoliad 12C blaenorol, ond nid yw’n benodol i Dde Affrica. Yn hytrach, mae’n gosod mesur ychwanegol ar wledydd a thiriogaethau a restrir yn yr Atodlen 3A newydd. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig yn ystod y 10 niwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, ei bod yn ofynnol i’r person ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 7(1) hefyd yn mewnosod rheoliad 12F newydd, sy’n gosod cyfyngiad ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn yr Atodlen 3A newydd.

Mae rheoliad 7(2) yn mewnosod Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau penodedig hynny sy’n ddarostyngedig i’r mesurau ychwanegol yn rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 7(2) yn rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn Atodlen 3A: Gweriniaeth Angola, Gweriniaeth Botswana, Gweriniaeth De Affrica, Gweriniaeth Malaŵi, Gweriniaeth Mauritius, Gweriniaeth Mozambique, Gweriniaeth Namibia, Gweriniaeth Seychelles, Gweriniaeth Zambia, Gweriniaeth Zimbabwe, Teyrnas Eswatini a Theyrnas Lesotho.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn—

(a)gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod mewn un o 11 gwlad restredig yn Affrica o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws;

(b)gwneud mân ddiwygiad i ganiatáu i gartrefi arddangos aros ar agor mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4, er na chaniateir gweld eiddo mewn cysylltiad â gwerthiant neu osod mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4 ond os yw’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(c)dirymu’r darpariaethau sy’n ymwneud â dydd Nadolig sydd wedi eu disbyddu bellach a gwneud mân ddiwygiadau eraill i reoliadau 38 a 57.

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad technegol i destun Cymraeg rheoliad 14(1)(c) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.