Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cau llwybrau cyhoeddus a thir mynediad

14.—(1Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)ei gadw ar gau tan yr adeg pan fydd yr awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint â’r coronafeirws yn ei ardal.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried—

(a)ei bod yn debygol y bydd niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd arnynt, neu

(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(3Pan fo llwybr cyhoeddus neu dir mynediad wedi ei gau o dan—

(a)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(1),

(b)rheoliad 9 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2),

(c)rheoliad 11 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(3),

mae’r llwybr neu’r tir i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio llwybr cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;

(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(i)awdurdod lleol,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac—

(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr ag a roddir i “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(4);

(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “byway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5);

(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6);

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(7).

(3)

Mae rheoliad 11 wedi ei ddirymu gan O.S. 2020/985 (Cy. 222).

(4)

Diwygiwyd adran 329 gan adran 1 o Ddeddf Llwybrau Beiciau 1984 (p. 38) a pharagraff 21 o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Canlyniadol) 1988 (p. 54).

(7)

Diwygiwyd adran 1(1) gan adran 303(2)(a) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources